Helpwch ni i siapio ein cynigion ar gyfer gorsaf pŵer niwclear newydd yn Wylfa
Bydd gan orsafoedd pŵer niwclear newydd ran allweddol i'w chwarae wrth fynd ati i ddiwallu anghenion ynni'r DU yn y dyfodol a lleihau ei hallyriadau carbon.
Mae Horizon Nuclear Power am adeiladu gorsaf pŵer niwclear newydd ar dir wrth ymyl Gorsaf Bŵer bresennol Wylfa A yn Ynys Môn. Disgwylir y byddai'r orsaf bŵer newydd yn cynhyrchu tua 3,300 megawatt o drydan carbon isel - digon i gyflenwi tua phum miliwn o gartrefi.
Fel rhan o broses gynllunio'r prosiect, rydym yn gofyn am farn y gymuned leol, y cyhoedd, awdurdodau lleol ac ystod o gyrff statudol a chyrff anstatudol eraill.
Y NEWYDDION DIWEDDARAF: Rydyn ni bellach wedi cyhoeddi Datganiad o Ymgynghori Cymunedol (SOCC) Wylfa - gallwch ei lwytho o adran Ddogfennau y wefan hon.
Mae'r adnodd ymgynghori ar-lein hwn yn un ffordd i chi gymryd rhan yn y broses ymgynghori, ac yn rhoi cyfle gwirioneddol i chi helpu i siapio ein cynigion. Bydd copi caled o'r ffurflen adborth ar gael yn ein digwyddiadau, a bydd hefyd ar gael ar ein gwefan maes o law.
Disgwylir i'r ymgynghoriad ddechrau yn gynnar yn 2012, a byddwn yn cyhoeddi manylion llawn y dyddiadau a'r lleoliadau pan fyddant ar gael.
I wneud yn siŵr eich bod yn cael dweud eich dweud gallwch gofrestru nawr. Byddwn yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf ac yn rhoi gwybod i'r rheini sydd wedi cofrestru pan fydd y cyfnod ymgynghori'n dechrau.





